HEDDIW, mae Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru yn datgan yn glir bod y mudiad yn gwrthwynebu trais yn erbyn plant ledled y byd.

Mewn cynhadledd ar faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn rhannodd y Prif Weithredwr, Siân Lewis ddatganiad pellach ar ran y mudiad.

Meddai: “Tra mae ieuenctid Cymru yn mwynhau ac yn elwa o’u profiadau yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod, mae’n anodd anwybyddu erchylltra digwyddiadau Rafah yr wythnos hon. 

“Mae’r Urdd yn datgan yn glir ein bod yn gwrthwynebu trais yn erbyn plant ledled y byd.

“Mae heddwch yn hawl sylfaenol i blant o bob cefndir, hil a chrefydd, ac mae gan bob plentyn yr hawl i gael eu hamddiffyn yn ystod rhyfel.

“Fel y rhannwyd gan ein haelodau yn eu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn gynharach y mis hwn, mae’r Urdd yn parhau i ddatgan yr alwad am heddwch byd eang  a chadoediad yn Gaza.”

Nodwyd hefyd y bydd yr Urdd yn cynnal gwylnos am 6.15 yh nos Wener (31 Mai) ger Llwyfan y Cyfrwy ar faes yr Eisteddfod.