MAE S4C yn chwilio am gyfranwyr ar gyfer Tŷ FFIT, cyfres newydd fydd yn cael ei ffilmio yn Hydref 2024.

Caiff y cyfranwyr lwcus aros mewn lleoliad epig pob penwythnos i wella ansawdd eu bywydau a chael saib o straen bob dydd gan greu ffrindiau newydd am oes.

Bydd y gyfres yn rhoi’r cyfle unigryw i bump unigolyn i drawsnewid eu hiechyd corfforol a meddyliol dros gyfnod o ddeufis.

I gael cyfle i gymryd rhan yn Tŷ FFIT, bydd angen llenwi ffurflen gais erbyn Gorffennaf 10fed, 2024, trwy ddilyn y ddolen yma: www.s4c.cymru/ty-ffit

Mae’r Cynhyrchwyr yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd amrywiol.

Lisa Gwilym fydd yn cyflwyno’r gyfres a bydd mentoriaid ysbrydoledig â sgiliau gwahanol a stori unigryw eu hunain i'w rhannu, yn cefnogi’r pump yn ystod eu cyfnod ar y gyfres.

Meddai: “Mae Tŷ FFIT yn mynd i fod yn brofiad hollol anhygoel i bump person lwcus – ac yn gynnig amhrisiadwy i dreulio saith penwythnos mewn hafan ymlaciol mewn lleoliad hyfryd yn dysgu arferion iach newydd.

“Dwi wedi cael y pleser o gyflwyno’r gyfres trawsnewid iechyd FFIT Cymru dros y chwe mlynedd ddiwethaf, ac mae'r cyfle i fod wrth y llyw yng nghyfres newydd gyffrous Tŷ FFIT yn fraint.

“Dwi wedi gweld yr effaith bositif mae dilyn cynllun bwyd iach ac ymarfer corff cyson yn ei gael ar gyfranwyr dros y blynyddoedd, a fedrai ddim aros i weld beth fydd ymateb criw Tŷ FFIT.

“Mae o wir yn mynd i fod yn gyfnod arbennig a chadarnhaol iawn ym mywydau’r pump. Ewch amdani!”

Mae Tŷ FFIT yn cael ei gynhyrchu gan Cwmni Da ac yn esblygiad o gyfres boblogaidd S4C, FFIT Cymru.

Am fwy o fanylion cysylltwch gyda [email protected] neu ffonio criw cynhyrchu Tŷ FFIT yn Cwmni Da ar 01286 685300