MAE Gethin John o Borthmadog yn anelu i golli 10 stôn ar ôl cael rhybudd gan ei feddyg bod rhaid iddo newid ei ffordd o fyw.
Ar ddechrau ei daith colli pwysau mae Gethin yn pwyso bron i 30 stôn, ac yn gorfod defnyddio clorian arbennig mewn meddygfa sy’n medru cynnal ei bwysau.
Fe ddilynodd camerâu S4C ei ymgais i drawsnewid ei fywyd gyda help ei hen ffrind ysgol, Sion Monty sy’n hyfforddwr ffitrwydd a corffluniwr.
Y nod yw colli 10 stôn a choncro’r Wyddfa erbyn diwrnod ei ben-blwydd, a’i freuddwyd yw bod nôl ar y cae rygbi yn chwarae i dîm Porthmadog.
Bydd 30 Stôn: Brwydr fawr Geth a Monty i’w weld ar S4C am 9pm ar nos Sul 19 Mai ac fydd hefyd i’w weld ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Dros flwyddyn, cawn ddilyn y ddau wrth i Gethin frwydro yn erbyn hen arferion drwg.
Daeth tro ar fyd i Gethin yn haf 2022: “Es i lawr i Gaerdydd i wylio gêm Netherlands a ges i uffar o boen tu ôl i’n llygad” meddai Gethin. “Es i at y doctor y diwrnod wedyn ac o’dd fy blood pressure yn sky high. Ultimatum oedd o’n fwy na dim byd. Os nad o’n i’n colli pwysau faswn i’m di bod yma’n hir. Na’th hynna ddychryn fi. Es i’n stret at mêt fi Monty, a deud bod y doctor ‘di rhoi rhybudd i fi.”
Mae Siôn Monty yn hyfforddwr ffitrwydd sy'n trawsnewid bywydau, ac yn berchennog cwmni dillad ffitrwydd, ap ymarfer corff, a champfa boblogaidd.
Mae ganddo 300,000 o ddilynwyr Instagram ac mae ei fideos ffitrwydd ar Youtube yn denu miliynau o wylwyr.
Roedd Sion yn barod i roi ei amser i’w ffrind ar gyfer creu’r rhaglen deledu: “Mae Geth a fi’n ffrindiau ers i ni fod yn blant” meddai Sion. O’n i’n un o’r criw efo Geth oedd yn mynd allan i yfed yn y 90au - ro’n i’n gneud be mae Geth yn dal i wneud rŵan.
“Adeg hynny, nes i droi at ffitrwydd, a na’th hynna newid fy mywyd i. Dwi wedi trio helpu Geth lot o weithiau o’r blaen, ac mae wedi colli rhywfaint o bwysau cyn mynd yn ôl i’w hen ffyrdd.
“O’n i isio’i helpu o am resymau selfish - do’n i’m isio mêt fi farw’n ifanc; o’n i isio fo fyw a gallu cael laff efo fo am flynyddoedd. Doedd ei iechyd ddim mewn lle da o gwbl. Dwi ‘di gweithio efo lot o bobl rownd y byd - doctoriaid, chwaraewyr yn yr NFL; ma’ hein yn fois mawr, ond neb mor fawr â Geth. O’n i’n gorfod deu’tho fo mai hwn oedd ei jans ola’ i gael ei hun lle o’dd o isio bod.”
Mae cynllun ac amserlen o sesiynau ymarfer yn cael ei roi ar waith gyda phwyslais ar fwyta’n iach, a cheisio cynnal diddordeb Gethin. Ond un o’r heriau mwyaf oedd torri lawr ar yr unedau uchel o alcohol a newid meddylfryd.
“Dwi’n gweithio 4 diwrnod on a 4 diwrnod off” meddai Gethin, sy’n gweithio mewn ffatri creu plastig ym Mlaenau Ffestiniog. “Diwrnod cynta’ dwi’n yfed, a’r 2il a’r 3ydd dwi’n yfed. Dwi’n cael brêc wedyn ar y 4ydd diwrnod, wedyn nôl i’r gwaith… ac wedyn yn gneud o i gyd eto. Sgin i’m byd tu ôl i fi. Dwi’n 37; ma’ rhan fwyaf o bobl efo morgej, car neis a petha. Sgen i’m byd.”
Wrth i’r misoedd fynd yn eu blaenau, daw’n amlwg fod mwy o ffactorau yn dylanwadu ar orbwysau Gethin. Cawn weld ei frwydr yn erbyn hen arferion drwg ac ymgais Monty i gadw meddwl ei ffrind – yn ogystal â’i gorff – yn iach.
“Dwi’n meddwl bo’ fi’n yfed lot i anghofio petha’ - os di petha’n mynd yn rong i mi - dwi’n yfed” meddai Gethin.
“Mae’n haws mynd am beint nag ydi o i fynd i’r gym neu cerddad 10 milltir. Pan dwi'n cael seshys dwi'n 'neud petha' ridiculous".
“Digwyddiadau social sy’n chwalu fi – dwi’n gwneud yn dda, ond wedyn yn gweld bod rhywbeth ymlaen – mae’n hawdd gollwng y gym mewn dim i fynd ar y cwrw efo’r hogia.
“Ma’r pethau dwi’n injoio neud yn infolfio cwrw - wrth fynd i ffwtbol neu bocsio ma’ ‘na beint - ru’n fath â rygbi, stags a chymdeithasu efo ffrindia’. Ma’ ‘na demtasiwn mawr drwy’r amser. Ma’ fatha bod gen i ddiafol ac angel bob ochr i fi’ ma’ na un yn deutha fi i neud a’r llall yn deutha fi i beidio.”
Mae Sion yn cydnabod mai rhan o’r broblem yw bod “Geth yn ofn colli allan”:
“Mae o’n foi mor gymdeithasol efo gymaint o ffrindiau, ac yn mynd allan bob cyfle. Does ganddo ddim cariad na plant, ac mae’r cymdeithasu ‘na’n cadw fo i fynd – ond mae hyna’n golygu bod o’n rhoi ei hun mewn environment sy’n gwneud iddo yfed – sydd ddim yn help i’w iechyd na cholli pwysa’.
“Dwi’n gobeithio neith y rhaglen yma ddangos bod siwrne fel hyn ddim yn plain sailing. Mae bywyd yn gallu lluchio curveballs atoch chi, ac mae o’n dangos y realiti yna. Gobeithio neith o ysbrydoli pobl. Mae ffitrwydd ac iechyd werth ei gael ond ddim yn hawdd.”
“Na’th Monty safio ‘mywyd i” meddai Gethin “Hebddo, faswn i ‘di quitio ar ôl mis, ac mae o wedi rhoi lot fawr o’i amser i’n helpu i, felly dwi’n ofnadwy o ddiolchgar iddo fo”.