MAd Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai Casnewydd fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2027.
Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Gwent Is Coed neithiwr, cytunodd neuadd o wirfoddolwyr a chefnogwyr mewn pleidlais unfrydol i estyn gwahoddiad i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2027 yng Nghasnewydd.
Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Chasnewydd ac mae’r Urdd a Chyngor Dinas Casnewydd yn y broses o drafod safleoedd posib ar gyfer maes yr ŵyl.
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Rwyf mor falch o weld cefnogaeth Cyngor Sir Casnewydd, a chymuned Rhanbarth Gwent gyfan i gynnal yr Eisteddfod yn 2027.
“Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw’r ffaith ei bod hi’n teithio, ac yn gallu ymweld ag ardaloedd sydd erioed wedi cynnal yr ŵyl.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda’r Cyngor a’r gymuned dros y tair blynedd nesaf i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal.”
“Mae’n gyffrous meddwl y byddwn ni’n dod ag un o ddigwyddiadau blynyddol Cymru, ac un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, i’n dinas am y tro cyntaf erioed. Braf oedd gweld cynifer yn dod i’r cyfarfod heno a chystal cefnogaeth o fewn ein cymuned i gynnal Eisteddfod yr Urdd yma.
“Fel datganwyd yn ôl ym mis Gorffennaf pan roddwyd sêl bendith gan gabinet Cyngor Dinas Casnewydd i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd, rydym ni’n awyddus i gynnwys cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol â phosibl yn y dathliadau, o ganol y ddinas ac ar draws Casnewydd, fel bod cymaint o bobl â phosibl yn profi bwrlwm digwyddiad diwylliannol mawr.
“Mae cynnal yr Eisteddfod yn unol â'n hamcanion o ran cynyddu nifer y plant yng Nghasnewydd sy'n dysgu drwy leoliad addysg cyfrwng Cymraeg, ond hefyd cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach yn y ddinas.
“Mae’n gyfle gwych, un a allai adael etifeddiaeth gadarnhaol am genedlaethau i ddod, ac edrychwn ymlaen at ddangos y gorau o Gasnewydd i’r genedl unwaith eto!”
Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, sydd bellach yn denu dros 100,000 o gofrestriadau i gystadlu ac yn cyfrannu miliynau i’r economi leol ble caiff ei chynnal.
Wedi Eisteddfod lwyddiannus ym Maldwyn eleni, mae’r paratoadau wedi hen ddechrau yng Nghastell-nedd Port Talbot, yr ardal fydd yn cynnal yr Eisteddfod flwyddyn nesaf. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam rhwng 26 Mai – 31 Mai.
Bydd yr Ŵyl yn croesi’r bont i Ynys Môn yn 2026, cyn ymweld â Chasnewydd, rhanbarth Gwent yn 2027.