MAE Colleen Ramsey ac Owain Wyn Evans wedi cychwyn ar antur Eidalaidd wrth iddynt gael blas ar fwyd, ffasiwn a phensaernïaeth wych y wlad.
Mae eu cyfres newydd, Ciao! Colleen ag Owain, i’w gweld ar S4C, gyda'r holl raglenni ar gael i'w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Mae'r cogydd teledu a'r awdur Colleen a'r cyflwynydd teledu a DJ Radio Owain yn archwilio'r Eidal, o piazzas cain ac adeiladau hynafol i farchnadoedd prysur a digon o pasta.
I Colleen, mae'n dychwelyd i le a oedd unwaith yn gartref iddi hi a’i gŵr, y pêl droediwr rhyngwladol Aaron Ramsey, a’u plant. I Owain, mae'n gyfle i brofi'r Eidal trwy lygaid newydd – a thrwy lygaid ffrind sy'n ei hadnabod yn dda.
"Fe wnaeth Colleen fyw yma gyda'i theulu pan oedd Aaron yn chwarae pêl-droed i Juventus," eglura Owain. "Felly mae gweld y lle trwy ei llygaid hi a'i safbwynt hi yn rhywbeth sbesial iawn."
Mae Colleen wedi dysgu Cymraeg ac Eidaleg ac mae'n llithro'n hawdd i sgyrsiau gyda phobl leol. Mae archebu coffi, sgwrsio mewn marchnadoedd, ac amsugno rhythm bywyd Eidalaidd bob dydd yn dod yn naturiol iddi.
“Roeddwn i'n cael dwy wers bob wythnos," meddai Colleen am ddysgu'r iaith. "Mae Eidaleg yn iaith hawdd i syrthio mewn cariad â hi."
Owain yw'r cydymaith teithio perffaith. Yn chwilfrydig, yn feddylgar ac yn frwdfrydig, dyma'r tro cyntaf iddo gyflwyno cyfres ar S4C ers iddo ddechrau ei yrfa yn y cyfryngau ar y gyfres newyddion i blant Ffeil.
"Mae ein taith yn mynd i fod yn gyfle i ddysgu," meddai Owain. "Nid yn unig am yr Eidal, ond am ein gilydd hefyd."
Mae'r rhaglen gyntaf yn mynd â ni i Lucca, dinas sy'n llethu'r synhwyrau. Wedi'i amgylchynu gan ei waliau hanesyddol ac yn gyfoethog o gerddoriaeth, bwyd a chrefft, mae Lucca yn gadael argraff barhaol.
"Mae apêl Lucca yn amlwg - mae'n chwarae ar eich holl synhwyrau," meddai Colleen, wrth i'r pâr grwydro trwy ei strydoedd.
Mae Owain, yn y cyfamser, yn ei elfen o ran dylunio a hanes. "Pensaernïaeth yw'r hyn sy'n chwythu fy chwiban i," mae'n cyfaddef. "Ac i fod yn deg i'r Rhufeiniaid, roedden nhw'n gallu adeiladu."
Mae'r angerdd hwnnw'n dod yn fyw yn ystod ymweliad ag Atelier Ricci, lle maent yn cael eu croesawu gan Patrizia Ricci i balas syfrdanol o'r 16eg ganrif.
Mae bwyd yn gyson ganolog i’r sgwrsio. Mae Colleen yn ddiygyfaddawd am ei blaenoriaethau. "Rwy'n casáu siopa," meddai "ond pan mae'n ymwneud â bwyd, mae hynny'n iawn."
Mae ymweliad â seler win yn eu cyflwyno i Barolo – ffefryn Colleen – gyda photeli yn amrywio o £97 i botel gwerth £20,000 sy’n tawel orffwys yn y seler.
“Mae dod i'r Eidal gyda Colleen, rhywun sydd wedi byw yma a rhywun sy'n amlwg yn mwynhau coginio a bwyd, yn gymaint o agoriad llygad i mi," myfyria Owain. "Ti’n gweld ochr arall o'r dinasoedd hyn ac yn gweld sut mae pobl yn byw, a rhan enfawr o hynny yw prynu a pharatoi bwyd."
Mae'r antur yn symud ymlaen i Bologna yn yr ail raglen, sy'n cael ei hystyried yn brifddinas fwyd yr Eidal. O'r golygfeydd gorau o'r hen ddinas ar ben ei thyrau enwog i'r Piazza Maggiore prysur, mae Bologna yn cynnig gwledd i'r llygaid yn ogystal â'r stumog.
Tra yno, mae'r pâr yn casglu cynhwysion ar gyfer pryd Eidalaidd draddodiadol cyn cymryd rhan mewn dosbarth coginio, gan ddysgu'r grefft o wneud pasta â llaw.
Mae yna eiliadau ysgafnach hefyd - gan gynnwys trafodaeth am ganeuon priodas. Mae Owain yn dweud mai Céline Dion oedd ei ddawns cyntaf e’, tra dewisodd Colleen Paolo Nutini.
Mae straeon o'u gorffennol yn dod i'r amlwg ar hyd y ffordd. Roedd Owain unwaith wedi chwarae drymiau i Bonnie Tyler. Mae Colleen yn cofio cwrdd â George Michael - yn sefyll wrth ei ymyl a Kate Moss – ac iddi wrthod gwahoddiad gan Elton John allan o bryder y gallai ei phlant dorri rhywbeth yn ei dŷ.
Ymunwch â Colleen ac Owain ar S4C gyda phaned neu cappuccini am wledd i’r llygaid a’r synhwyrau.


.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.