MAE ail gyfres Hansh S4C, Ar Led, yn cael ei gyflwyno gan y meddyg iau Ffraid Gwenllian ac yn trafod iechyd meddwl a lles trwy sgyrsiau agored gydag unigolion sy’n byw gyda gwahanol gyflyrau neu heriau.
Roedd y gyfres gyntaf yn canolbwyntio ar iechyd rhyw a pherthnasau gyda Ffraid Gwenllian yn cyfrannu fel arbenigwr.
“Mae’r fformat a’n rôl i bach yn wahanol tro ‘ma,” eglura Ffraid, “yn y gyfres gyntaf oni’n cynghori fwy achos bod gen i ddiddordeb neilltuol ym maes iechyd rhyw, ond tro ‘ma, fel cyflwynydd, fyddai’n cael sgwrs mwy anffurfiol efo’r cyfranwyr am wahanol agweddau’n ymwneud â iechyd meddwl.”
Mae hi’n gobeithio bydd camu i’r rôl o gyflwyno’r gyfres yn ei gwneud hi’n ddoctor gwell: “Wrth hyfforddi i fod yn ddoctor, ti’n dysgu am y cyflyrau iechyd meddwl yma drwy textbooks. Dwyt ti ddim yn dysgu amdanyn nhw gan y bobl sy’n byw efo’r cyflyrau yna. Ac, i fi, o’dd hynny’n amhrisiadwy.”
Dywedodd Ffraid bod clywed gan y cyfranwyr wedi dylanwadu ar y ffordd y bydd hi’n ymdrin â chleifion yn y dyfodol: “O’dd o’n ddiddorol i fi allu gofyn y cwestiynau ‘na fysa chdi efallai ddim yn gallu eu gofyn mewn gofod meddygol.
“Achos doeddwn i ddim yn siarad efo nhw fel doctor, o’n i’n siarad efo nhw fwy fel ffrind. Ac oni’n gallu gofyn iddyn nhw pethau fel ‘be dwyt ti ddim yn licio pobl yn ddeud?’ neu ‘pa heriau sy’n dy wynebu di yn y byd meddygol?’
“Dwi’n gwybod bod lot o frustrations pobl sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl yn frustrations efo staff meddygol – diffyg dealltwriaeth a diffyg parodrwydd i ddeall hefyd weithiau. Dwi’n ymwybodol iawn bo fi ddim isio bod fel ‘na a ddim isio adio ar y baich ‘na ar gleifion y bydda i’n dod ar eu traws fel meddyg.”
Mae'r gyfres yn edrych ar ystod o brofiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles, gan gynnwys cyflyrau cyffredin fel gor-bryder ac iselder, yn ogystal â phynciau fel delwedd y corff, straen, niwroamrywiaeth a galar - ffactorau sy’n gallu cael effaith ar iechyd meddwl.
Ac mi wnaeth ffilmio’r gyfres hon gyd-fynd gyda phennod newydd ym mywyd personol Ffraid, sydd yn ddiweddar wedi dod yn fam. Mae hi’n disgrifio’r profiad fel un heriol ond gwerthfawr, ac yn canmol y tîm cynhyrchu am greu amgylchedd cefnogol a hyblyg i bawb yn ystod y ffilmio: “Roedd Brychan yn ddau fis oed ar y pryd, felly o’dd o’n heriol trio mynd yn ôl i mewn iddo fo - ac efo baby brain a bob dim! Ond dwi mor falch bo fi wedi neud o.”
Wrth drafod pwysigrwydd cyfres fel hon yn yr iaith Gymraeg, mae Ffraid Gwenllian yn disgrifio Ar Led fel cyfres arloesol: “Dwi’n meddwl bod o’n ofnadwy o bwysig bod y sgyrsiau yma, sgyrsiau sy’n aml yn cael eu hystyried yn tabŵ o fewn cymdeithas, yn cael eu trafod yn agored ac yn onest a dyna mae Ar Led yn neud.”
Mae ail gyfres Ar Led ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Hansh.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.