“MAE ‘na lawer y gallwn ni ei ddysgu o enwau lleoedd, ac mae astudio enwau lleoedd yn ddisgyblaeth sydd wedi ei hanwybyddu lawer gormod.

“Mae angen eu trysori a'u dathlu nhw!” meddai Angharad Fychan, awdur cyfrol newydd sydd yn trafod ystyr dros hanner cant o enwau, Rhwng Llyfnant ac Ystwyth – Golwg ar Rai o Enwau Lleoedd Gogledd Ceredigion (Y Lolfa).

Meddai Angharad: “Er bod y gyfrol yn canolbwyntio ar yr ardal rhwng afonydd Llyfnant (i’r de o Machynlleth) ac Ystwyth yng ngogledd Ceredigion, dwi'n cymharu efo enwau eraill ar draws Cymru a thu hwnt, felly gobeithio bydd iddi apêl ehangach.

“Fel mewn pob ardal, mae’r enwau yn amrywiol iawn, gydag ambell enw gwahanol efallai e.e. Capel Sbaen, Nant Torri Gwddwg, Siani Groca, Twll Tin y Byd. Mae gan pob un â'i stori fach ei hun.”

Yn ogystal ag ystyried tarddiad ac arwyddocâd yr enwau, mae Rhwng Llyfnant ac Ystwyth yn rhoi sylw i draddodiadau a chwedlau lleol sy’n gysylltiedig â hwy.

Mae’r ymchwil yn seiliedig ar gofnodion hanesyddol o’r enwau mewn ystod eang o ffynonellau, yn weithredoedd, barddoniaeth, ewyllysiau, cofrestri plwyf, y Cyfrifiad, mapiau stad, y Mapiau Degwm, mapiau’r Arolwg Ordnans – a’r tystiolaeth werthfawr a cheir ar lafar yn unig.

Ychwanegodd Angharad: “Roeddwn i'n un o sylfaenwyr Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn 2011, ac un o amcanion y Gymdeithas yw 'Hybu ymwybyddiaeth, astudiaeth a dealltwriaeth o enwau lleoedd Cymru'.

“Yn 2013, fe benderfynais ddechrau colofn enwau lleoedd yn fy mhapur bro, sef Y Tincer, er mwyn ceisio cwrdd â'r nod yma - dyma oedd fy nghyfraniad bach i at yr achos.

“Mae’r gyfrol wedi deillio o’r golofn yma, er mae’r colofnau wedi’u diwygio cryn dipyn ac rwyf wedi ychwanegu atynt yn sgil ymchwil pellach a darganfyddiadau newydd.”

Mae Rhwng Llyfnant ac Ystwyth – Golwg ar Rai o Enwau Lleoledd Gogledd Ceredigion gan G. Angharad Fychan ar gael nawr (£12.99, Y Lolfa).