MAE gan Y Bartneriaeth Awyr Agored fwy nag un rheswm i ddathlu ar hyn o bryd.
Wythnos yn ôl daethant i’r brig yng ngwobrau elusennau Cymru, sy’n cael eu cynnal yn flynyddol gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, am eu hymrwymiad i’r Gymraeg a rwan maent yn dathlu eto, wedi sicrhau cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio i gefnogi pobl Cymru a thu hwnt i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes.
Wedi ei sefydlu yn 2004 mae’n dwyn mudiadau sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ynghyd i gydweithio’n effeithiol yn y sector awyr agored a rhannu’r un weledigaeth.
Yn ôl Siân Williams o’r Bartneriaeth, mae gweithredu a chynnig gwasanaethau drwy’r Gymraeg yn gam naturiol iddynt: “Fel elusen a sefydlwyd yng Ngogledd Orllewin Cymru, rydym yn hynod o falch o’n gwreiddiau, a’n bod ni yn elusen fach Gymreig, sydd wedi ehangu i a dylanwadu ar ardaloedd eraill o’r Deyrnas Unedig yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf.
“Mae’n bwysig i ni bod ein gwaith creiddiol o gefnogi cymunedau Cymreig, yn parhau ac mae cynnig gwasanaeth Cymraeg yn rhan hanfodol o hyn.
“Rydym yn parhau ar ein siwrnai o ran y Gymraeg ond roedd ennill yn y noson wobrwyo yn wych ac mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn awr yn brawf o’n hymrwymiad a’n bod ar y llwybr cywir.”
A hithau’n Wythnos Elusennau yn ddiweddar, bu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn dathlu drwy gynnal ei seremoni wobrwyo flynyddol lle mae’r defnydd o'r Gymraeg yn cael ei gymeradwyo. Eleni, y Bartneriaeth Awyr Agored ddaeth i’r brig yn y categori penodol hwnnw.
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, mae'r maes gweithgareddau awyr agored yn hynod boblogaidd ac mae gweld y bartneriaeth yn rhoi lle blaenllaw i’r Gymraeg yn galonogol iawn.
“Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn cydweithio gyda nifer o sectorau ac o ganlyniad gall eu hymrwymiad i’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd gael effaith pellgyrhaeddol.
“Drwy sicrhau cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg, maent wedi datblygu cynllun gwaith sydd yn amlinellu cyfeiriad clir i’w gwaith lle mae’r Gymraeg yn chwarae rôl ganolog.
“Rydym ynghanol ein hymgyrch Defnyddia dy Gymraeg lle rydyn ni’n annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amryw o sefyllfaoedd. Mae llwyddiant y Bartneriaeth yn brawf pellach o’r angen i gynnig gwasanaethau Cymraeg ymhob haen o’n bywydau.”
Cydnabyddiaeth swyddogol Comisiynydd y Gymraeg yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg.