ELIN Mair Jones o Sarn Mellteyrn, Pen Llŷn, sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni gwerth £3,000.

Mae Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd yn cael ei dyfarnu’n flynyddol i gefnogi myfyriwr sy’n byw yng Ngwynedd ac sy’n dewis astudio 100% o’u cwrs gradd yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Elin, a gyflawnodd ei lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Meddai: “Mae derbyn yr ysgoloriaeth yma yn golygu llawer i mi a fy nheulu.

“Dwi’n angerddol iawn dros y Gymraeg felly roedd dewis astudio’r Gymraeg fel pwnc yn y brifysgol yn gam naturiol i mi.

“Mae’n bwnc amrywiol ac eang. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at astudio’r modiwl Sgriptio Teledu er mwyn cael profiadau a datblygu sgiliau newydd.

“Hoffwn fod yn athrawes yn y dyfodol ond dwi hefyd am gadw meddwl agored ar hyn o bryd oherwydd rwy’n ymwybodol fod astudio’r Gymraeg fel pwnc yn rhoi gymaint o gyfleoedd ac opsiynau gyrfaol.”

Cafodd yr ysgoloriaeth, sydd werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd) ei sefydlu ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Meddai Dr Ioan Matthews, prif weithredwr y Coleg Cymraeg : “Ar ran y coleg, hoffwn longyfarch Elin ar ennill Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd eleni a dymunwn bob llwyddiant iddi yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Gyngor Gwynedd am eu cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd. Mae’n bleser cydweithio i gefnogi myfyrwyr i barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Gwynedd: “Llongyfarchiadau mawr i Elin Mair Jones ar sicrhau Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a phob dymuniad da iddi wrth iddi gychwyn ar ei hastudiaethau yn y Brifysgol.

“Fel Cyngor, rydym yn falch iawn o gefnogi myfyrwyr o Wynedd sy’n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ein bod yn medru cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg wrth hyrwyddo’r ddarpariaeth addysg uwch sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Ewch i wefan y Coleg am wybodaeth bellach ar sut i ymgeisio ar gyfer Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd 2026. Gellir defnyddio Chwilotydd Cyrsiau’r Coleg Cymraeg er mwyn gwirio pa gyrsiau sy’n gymwys i dderbyn yr ysgoloriaet