CYHOEDDWYD o lwyfan y Pafiliwn Gwyn, Cae Sioe Môn heddiw mai Glain Llwyd o Dal-y-bont ger Aberystwyth yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i gael ei llwyfannu mewn gofod theatrig ar gyfer 1, 2 neu 3 perfformiwr (nid o reidrwydd cymeriadau), rhwng 15-30 munud o hyd.

Yn ôl y beirniaid, Gareth Evans-Jones a Mared Llywelyn, daeth 15 ymgais i law ‘mewn chwip o gystadleuaeth’ gyda phob sgript yn ‘ddiddorol ac yn arbennig’ a’r beirniaid wedi mwynhau darllen pob un.

Mae Glain yn 21 mlwydd oed ac yn byw yng Nghaerdydd ers iddi raddio o gwrs BA Perfformio, Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru. Mae Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn rhan bwysig o’i bywyd ers iddi gystadlu am y tro cyntaf pan yn chwe mlwydd oed. Mae Glain yn aelod o Gwmni Theatr yr Urdd ac ym mis Awst bydd yn chwarae un o’r prif rannau yn y sioe gerdd ‘Calon’ yng Nghanolfan y Mileniwm.

Dywedodd Glain: “Dwi wedi perfformio ar lwyfannau ers yn ifanc, fel aelod o Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, clybiau Drama Arad Goch ac ar lwyfannau Tafwyl a’r Eisteddfod Genedlaethol fel aelod o’r grŵp Diffiniad.

“Hoffwn ddiolch i Mam a Dad am fy annog i gystadlu ac i ysgrifennu, i Miri fy chwaer am roi ei barn onest ar y sgript cyn ei hanfon i’r gystadleuaeth, ac i Jarvis Cocker o Pulp am ysbrydoli fy ffug enw!”

Meddai’r beirniaid: “Dyma ddramodydd hynod gyfforddus ac aeddfed, mae’r syniad yn syml ond yma ceir datguddiadau graddol, deialog chwareus a llachar. Dyma ddrama sy’n chwarae gyda’r dwys a’r difri’n effeithiol ac yn gadael teimlad cynnes, llawn gobaith ar ei ôl, heb fod yn or-sentimental.”

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Siriol Haf Ousey o Rhyl, a Lleucu Angharad Hughes o Lanuwchllyn oedd yn drydydd.

Derbyniodd Glain fedal arbennig wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron. Rhoddir y Fedal er cof am Audrey Mechell, yr actores a'r cynhyrchydd, gan ei merched Linda a Sandra, a'r wyrion Elin, Gwen, Glesni a Cai.

Cafodd gwaith Glain yn cael ei gyhoeddi ar ffurf llyfryn gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn syth ar ôl y seremoni. Chloe Swinburn, enillydd yr Ysgoloriaeth Gelf yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, sydd wedi creu'r gwaith celf ar gyfer llyfrynnau’r prif enillwyr. Gellir prynu copi ar y maes – gan yr Urdd neu siop lyfrau Awen Menai – neu mewn siopau llyfrau lleol.

Bydd gwaith y Prifardd yn cael ei gyhoeddi fory a gwaith y Prif Lenor dydd Gwener gan Gyhoeddiadau’r Stamp (os bydd teilyngdod).

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y gystadleuaeth yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd diolch i nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith. Yn ogystal â chael blwyddyn o fentoriaeth a chyfleoedd datblygu gyda Theatr Cymru, fel Dramodydd Preswyl Ifanc ac yn derbyn hyfforddiant pellach gyda'r BBC.