MAE nofel Gymraeg sy’n cael ei chyhoeddi’r wythnos hon yn torri tir newydd yn y byd llyfrau Cymraeg.

Mae addasiad Elen Williams o lyfr poblogaidd Gill Lewis bellach yn y siopau.

Mae modd lawrlwytho gweithgareddau i ddarllenwyr i gyd-fynd â’r nofel ar gyfer darllenwyr 9–12 oed, Galwad yr Alarch, yn rhad ac am ddim drwy wefan Gwasg Carreg Gwalch, y cyhoeddwyr.

Pennod wrth bennod, mae gan ddarllenwyr gyfle i ystyried gwahanol agweddau ar y cymeriadau, datblygiad y stori a’r themâu. Mae’r gweithgareddau yn ysgogi canolbwyntio, trafodaeth, gwerthfawrogiad – ac yn bwysicach na dim, y pleser o ddarllen.

Mae Galwad yr Alarch wedi’i lleoli ar lannau aber yng ngorllewin Cymru, lle mae bachgen sydd wedi’i ddiarddel o ysgol yn y ddinas yn ailafael yn raddol yn ei fywyd.

Elen Williams, addasydd y testun i’r Gymraeg, yw awdur y gweithgareddau.

Meddai: “Y diben wrth wneud hyn yw cynyddu’r diddordeb a’r mwynhad sydd i’w gael wrth ddarllen.

“Mae gweithgaredd fel hyn yn allweddol ar gyfer cynorthwyo plant i ganolbwyntio a dyfalbarhau gyda’u darllen drwy feithrin sgwrs a thrafod a datblygu ymateb emosiynol.

“Mae hyn yn arfer cyffredin ymysg y rhan fwyaf o gyhoeddwyr plant yng ngwledydd Ewrop bellach.”

Mae ymchwil rhyngwladol yn dangos fod gweithgaredd fel hyn yn cyfrannu’n gadarnhaol at iechyd a lles a sgiliau cyfathrebu plant a phobl ifanc.

Gyda llythrennedd plant Cymraeg Cymru yr isaf mae wedi bod ers dros ddau gan mlynedd a nifer y llyfrau Cymraeg a gyhoeddir yn flynyddol wedi gostwng o 185 i 122 dros y degawd diwethaf, mae pob ymdrech i hybu diddordeb mewn llyfrau ac i gryfhau dyfalbarhad darllenwyr ifanc i’w groesawu.

“Yr hyn sy’n drawiadol yw bod llawer iawn o wledydd drwy’r byd yn wynebu sialens i hyrwyddo llythrennedd,” meddai Myrddin ap Dafydd, un o gyfarwyddwyr y wasg sydd newydd ymweld â Ffair Lyfrau Frankfurt.

“Mae gallu plant i ganolbwyntio ar ddarllen yn cael ei danseilio’n gyson oherwydd dylanwad adnoddau digidol, cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol.

“Eto, roedd hi’n amlwg yn y Ffair fod gwledydd y byd yn gwneud ymdrech fawr ar hyn o bryd i wneud llyfrau mor ddeniadol a defnyddiol ag y bo modd – ac mae’r gweithgareddau yma gan Elin yn gosod canllawiau ar gyfer hynny.

“Mae’n braf gweld bod nofel afaelgar – a phecyn o weithgareddau – ar gael i ddarllenwyr ifanc Cym-raeg bellach.”

Mae’r nofel Galwad yr Alarch ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru ac ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg-gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com