MAE Kristoffer Hughes wedi treulio 35 mlynedd yn gweithio fel technegydd patholegol yn rhai o farwdai mwyaf Prydain.
Er ei fod e’n gyfforddus yn trin a thrafod marwolaeth, mae o wedi bod ar daith ryfeddol dros y flwyddyn ddiwethaf sydd, meddai, “wedi newid fy mywyd, fy safbwynt a’m hagweddau tuag at farwolaeth”.
Mae camerâu S4C wedi bod yn dilyn Kristoffer, sy’n Bennaeth Urdd Derwyddon Môn, ac yn adnabyddus i lawer fel y comedïwr drag Maggi Noggi, wrth iddo deithio i India, Indonesia, yr Unol Daleithau a Mecsico i brofi sut mae diwylliannau ym mhen draw’r byd yn delio gyda galar a marwolaeth.
Bydd holl brofiadau a rhyfeddodau’r siwrne “arbennig, heriol, anghyffyrddus, trawiadol, trawmatig ac anfarwol” i’w gweld yn y gyfres Marw gyda Kris, sy’n dechrau heddiw 10 Hydref.
O brofi amlosgi awyr agored a gwesty marwolaeth yn India i ymweld â Gŵyl y Meirw a chwrdd â theulu sydd yn glanhau esgyrn eu hanwyliaid ym Mecsico, rhyfeddu at eirch drud yr Unol Daleithau, a’r dull newydd o gompostio cyrff, mae’r gyfres yn agor y drws i fydoedd rhyfeddol marwolaeth.
“Dan ni yn y gwledydd gorllewinol yn trafod popeth am ryw erbyn hyn. Ond mae trafod marw yn ‘big no no’ o hyd,” meddai Kristoffer.
“Dan ni wedi troi’r profiad o farw yn brofiad meddygol, nid yn brofiad eneidiol, ysbrydol - dan ni wedi trosglwyddo marwolaeth drosodd i bobl broffesiynol sydd erioed wedi bod yn y sefyllfa i ddelio efo beth sy’n digwydd pan ti wedi marw.
“Mae ‘na gymaint y gallwn ni ddysgu oddi wrth ddiwylliannau eraill ac wrth wneud hynny efallai leihau'r ofn y mae marwolaeth yn ei godi ynom ni. Mae o’n brofiad cyffredin i ni gyd, a dwi’n meddwl bod o’n deud gymaint am gymdeithas ac ysbryd cymdeithas sut dan ni’n delio gyda’r peth.
“Ar y daith arbennig yma, dwi wedi profi cynhesrwydd a rhyddid i fynegi galar yn iach ac yn holistig. O’n i’n meddwl byddai dim byd yn agor fy llygaid, ond ges i fy synnu.”
Yn y dyddiau’n arwain at Dia de los Muertos, neu Diwrnod y Meirw ym Mecsico, mae’n arferiad blynyddol yng nghymuned Pomuch i lanhau esgyrn eu cyndeidiau marw, yn y gred bod gan y meirw fwy nag un bywyd - rhywbeth, meddai Kris oedd yn rhoi cysur i’r trigolion: “I ni, ella bod o’n edrych yn erchyll, yn eithafol, ond iddyn nhw roedd o’n hollol naturiol bod cwmni’r meirw’n rhan o fywyd byw.
“Roedd plant yn glanhau esgyrn eu Nain heb ddim ofn. Be oedd yn hynod o arbennig oedd bob blwyddyn roedd pawb, dim ots pwy oeddet ti, yn cael caniatâd i drochi eu hunain yn ôl mewn colled a galar ac i gofio’r rheini sydd wedi byw ac wedi dylanwadu arnon ni.”
Profiad arall sydd wedi cael gryn argraff ar Kris oedd ymweliad â’r Natural Organic Production Facility yn Seattle – un o dair canolfan compostio cyrff yn y byd: “Nathon ni eistedd yng ngardd y ddynes ‘ma o Ogledd Washington, oedd wedi colli’i mab oedd yn 46 oed. Roedd hi wedi compostio’i gorff, ac roedden ni’n bwyta salad roedd ei mab wedi tyfu.
“Mae’i mab hi rŵan yn rhoi bywyd newydd i’r tir. Bob tro roedd hi’n edrych allan ar y coed, llysiau a’r blodau newydd ‘ma, roedd hi’n gweld bywyd roedd ei mab wedi’i roi i’r ddaear. Doedd o ddim yn cymryd dim oddi wrth y ddaear, ond yn rhoi rhywbeth yn ôl iddi.
“Roeddwn i’n meddwl llawer am Dr William Price, y derwydd o’r ddeunawfed ganrif. Diolch iddo fo ddaeth amlosgi’n gyfreithlon ym Mhrydain. Ella bod y byd yn barod am dderwydd arall i ddod â Natural Organic Production i Brydain!”