MAE menyw o Lanbed wedi diolch i'w ffrindiau, ei theulu a busnesau lleol am ei helpu i godi £5,100 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru ar ei phen-blwydd yn 40 oed.
Penderfynodd Gwennan Jenkins gasglu arian i'r elusen ymchwil canser Gymreig ar ôl i'w mam-yng-nghyfraith - Joyce Jenkins, a dwy ffrind agos iddi hi gael eu trin am ganser y fron.
Trefnodd gala elusennol yn Nhŷ Glyn yng Nghiliau Aeron gydag ocsiwn, raffl amlen euraidd a Pwdin Reis oedd y band byw.

Un o uchafbwyntiau'r noson oedd perfformiad acapela syrpreis gan ei ffrindiau o ‘Angor’ gan Tudur Huws Jones – cân y'i canwyd ar ddiwrnod priodas Gwennan a'i gŵr Carwyn dros ddegawd yn ôl.
“Roeddwn i eisiau dathlu fy mhenblwydd arbennig – ar ddiwedd 2025, trwy ddod â ffrindiau a theulu ynghyd”, meddai Gwennan.“
Rwy'n tueddu i fyw fy mywyd yn llawn ac i'r eithaf, ac felly, gyda chaniatâd fy mam-yng-nghyfraith a'm dwy ffrind Lowri - mae'r tair wedi cael triniaeth am ganser y fron yn ystod y blynyddoedd diwethaf, trefnwyd y noson elusennol yn Nhŷ Glyn.”
Dywed Gwennan bod y cinio gala wedi bod yn noson wych, a bod hynny diolch i bawb a ddaeth i gefnogi neu gwnaeth roddi cyfraniad.

Roedd yn noson emosiynol hefyd gan fod y rhan fwyaf o bobl yno wedi cael eu heffeithio gan ganser ac mi gollodd Gwennan ei hun ei thad-cu i'r afiechyd.
Meddai: “Cawsom roddion gwych gan ffrindiau a busnesau lleol, ac rwy’n diolch o galon iddynt.
“Mae’r holl elw wedi mynd i Ymchwil Canser Cymru.
“Wrth edrych ar bawb a oedd yn bresennol, roedd pob bwrdd wedi cael ei effeithio gan ryw fath o ganser yn y blynyddoedd diwethaf, ac roedd llawer wedi colli annwyliaid hefyd - tadau, mamau, gwragedd a gŵyr - roedd hyn yn golygu cymaint i bawb ac roedd yn noson eithaf emosiynol.
“Yr hyn a wnaeth i mi sylweddoli pa mor bwysig yw parhau i ymchwilio canser oedd gweld y mathau amrywiol o driniaethau y derbyniodd fy nheulu a'm ffrindiau yn ystod eu diagnosis – mae’r ymchwil yn caniatáu i ddatblygu triniaethau newydd ac i roi gobaith a lleddfu pryderon pobl.

“Cafodd ein teulu ni ein heffeithio gan ganser pan gafodd fy nhad-cu ei ddiagnosio gyda’r salwch, ond yn anffodus, nid oedd unrhyw wellhad ar gael iddo.”
Ymchwil Canser Cymru yw’r elusen ymchwil canser annibynnol Cymreig a sefydlwyd yn 1996.
Teithiodd Rheolwr Codi Arian yr elusen – Carys Jenkins, o’r swyddfa yng Nghaerdydd yn ddiweddar i gwrdd â Gwennan i gasglu'r siec o £5,100.
“Roedd yn bleser cael mynd i gyfarfod â Gwennan a diolch iddi hi wyneb yn wyneb am godi £5,100 dros Ymchwil Canser Cymru gyda'r noson codi arian a drefnodd gyda'i ffrindiau a'i theulu i nodi ei phenblwydd yn 40 oed,” meddai Carys.
“Mae ymroddiad Gwennan i achos ymchwil canser yng Nghymru yn amlwg yn gryf, ac mae hi'n gallu bod yn sicr y bydd yr arian a gododd gyda'i noson elusennol yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth uno Cymru yn erbyn canser trwy ymchwil arloesol.”






Comments
We've recently changed our login process. If you have an account for commenting, you will need to re-register on the login window.
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.