MAE Mudiad Meithrin yn dathlu cymhwyso dros 4,000 o fyfyrwyr mewn 20 mlynedd trwy Gynllun Hyfforddi Cenedlaethol Cam wrth Gam.
Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant ifanc maent yn gwneud popeth yn eu gallu i ddarparu’r safon aur mewn profiadau blynyddoedd cynnar.
Mae’r gwaith yn dylanwadu’n fawr ar blentyn am weddill ei fywyd ac mae hyn yn rhywbeth y maent yn ei gymryd o ddifrif gan ddarparu profiadau dysgu a chwarae cyfoethog, effeithiol a llawn gwybodaeth iddyn nhw.
Meddai Helen Williams, pennaeth tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Mudiad Meithrin: “Mae cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Cam wrth Gam yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau fod niferoedd digonol a chyson o bobl yn gweithio o fewn y sector gofal plant a blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.
“Mae arbenigedd ein tîm yn golygu ein bod ni’n medru cynnig popeth sy’n ymwneud â’r cymhwyster hwn oddi mewn i Mudiad Meithrin.
“Ry’n ni’n creu adnoddau gwreiddiol i gefnogi’r dysgu, yn cynnal gweithdai ymarferol cyson, ac yn darparu cefnogaeth iaith i’r sawl sydd am loywi eu iaith - ac mae dysgwyr hefyd yn cael elwa o hyfforddiant Academi Mudiad Meithrin sy’n cyfrannu at eu datblygiad proffesiynol parhaus.
“Mae ansawdd y ddarpariaeth yn uchel gyda’r Mudiad yn meddu ar statws hawlio uniongyrchol ar gyfer elfennau o’r cymwysterau – golyga hyn ein bod ni wedi derbyn adroddiadau gwirio ansawdd allanol rhagorol.”
Ers sefydlu y cynllun yn 2004 mae dros 4,000 o bobl wedi cymhwyso mewn cymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig gan gyfrannu at greu gweithlu cymwys i weithio yn y Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd ledled Cymru.
Er mwyn gwneud y cynllun, rhaid i fyfyrwyr fod yn gyflogedig mewn lleoliad addas e.e. Cylch Meithrin, meithrinfa ddydd neu ysgol gynradd Gymraeg.
Mae tîm profiadol, cefnogol a chyfeillgar o diwtoriaid ac aseswyr yn cefnogi dysgwyr a lleoliadau ar hyd y daith dysgu.
Cynhelir Seremoni Wobrwyo Cam wrth Gam yn flynyddol i wobrwyo a dathlu llwyddiannau a gwaith caled myfyrwyr Cam wrth Gam yn eu lleoliadau wrth ddilyn a chwblhau eu cyrsiau Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant neu Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.