GALLWCH wylio wyth record byd yn cael eu torri yng Nghymru mewn rhaglen arbennig ar S4C dros y Pasg sy’n cael ei gyflwyno gan Alun Williams a Rhianna Loren.
Roedd y campau yma yn rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1af ac mae'n cynnwys record i Rhianna, y tro cyntaf i gyflwynydd y sioe i dorri record byd.
Dyma'r bedwaredd flwyddyn i S4C ymuno â Guinness World Records i ddathlu nawddsant Cymru wrth dorri recordiau byd.
Mae’r recordiau dorrwyd yn cynnwys tynnu ‘monster truck’ anferth, nifer anhygoel o datŵs cwningen a dau frawd sy’n bocsio â dwylo cyflym iawn.
Bydd Guinness World Records Cymru 2024 yn cael ei ddarlledu ar S4C ar 1 Ebrill am 20.00 a bydd hefyd ar gael i’w wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Cyfunodd Andrew Conway a Nicola Walters eu cryfder i osod yr amser cyflymaf i dynnu ‘monster truck’ 20 m (tîm o ddau) mewn dim ond 19.5 eiliad.
Ymunodd Nicola â Bethan Grice, Lisa Marie Hassall a Sam Taylor i dorri'r record am yr amser cyflymaf i dîm (benywaidd) dynnu lori 20 m.
Roedd y lori yn pwyso 20,240kg (44,621 pwys) ond fe lwyddon nhw i wneud hynny mewn 20 eiliad yn unig.
Tynodd Jamie Kelly, Andrew Taylor, David Todd a Gareth Pugh yr un cerbyd i dorri record yr amser cyflymaf i dynnu lori 20 m gan dîm (gwrywaidd) mewn amser o 18.10 eiliad.
Aeth y brodyr Ioan a Garan Croft, y ddau yn enillwyr medalau Bocsio yng Ngemau'r Gymanwlad, benben â’i gilydd i hawlio'r record am daflu ergyd estyniad llawn tra’n gwisgo menig bocsio mewn un munud. Hawliodd Ioan y record gyda chyfanswm o 279.
Yna aeth y brodyr ymlaen i osod record gyda'i gilydd am y nifer fwyaf o’r symudiad bocsio ‘duck and weave’ gan bâr mewn un munud, gan lwyddo i wneud 138.
Fe wnaeth y gyflwynwraig Rhianna Loren hefyd dorri record ei hun am y 20m cyflymaf ar ‘spacehopper’ (benywaidd) gydag amser o 11.77 eiliad.
Meddai Rhianna: "Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi bod yn rhan o'r gyfres hwyliog hon sy’n dathlu llwyddiannau.
"Mae'n anrhydedd gwylio pobl yn rhoi cynnig ar recordiau gwirioneddol anhygoel, ac i gwrdd â'r talent anhygoel sydd gennym ledled Cymru.
"Mae bod yn rhan o'r rhaglen yma yn gymaint o bleser - ac mae'n raglen sy’n bleser i’w gwylio, hefyd!"
Un arall sy’n ymddangos ar y rhaglen i ddathlu ei record unigryw yw Craig Evans, sy’n ffan mawr o gwningod.
Gyda chyfanswm o 69, mae ganddo’r record am y nifer fwyaf o datŵs cwningod ar y corff (gwryw).
Mae Ski4All Wales, elusen sy'n helpu oedolion â nam corfforol a niwrolegol i fwynhau sgïo, hefyd yn cymryd rhan yn y dathliadau, gan chwalu'r record am sgïo addasol am y pellter mwyaf mewn awr gan dîm cyfnewid, gyda phellter o 13.75 km (8.54 milltir).
Teithiodd aelodau'r Clwb Ffermwyr Ifanc o bob rhan o Gymru i Gefn Sidan i’r ornest tynnu raff dros y pellter hiraf, a ddigwyddodd mewn gornest enfawr o 516.35 metr (1,694 troedfedd).
Ymunodd myfyrwyr o Goleg Sir Gâr gyda chapteiniaid y timoedd - cewri rygbi Cymru, Scott Quinnell ac Elinor Snowsill.
Cymerodd 100 o bobl ran wrth dynnu’r rhaff, a thîm Elinor a ddaeth i'r brig.
Dywedodd y cyflwynydd Alun Williams: "Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r rhaglen hon unwaith eto eleni.
"Mae angen rhoi clod i’r bobl ddiddorol rydyn ni'n cwrdd â nhw ar hyd y ffordd wrth iddyn nhw geisio’r campau anhygoel a heriol yma.
"Mae'n bendant werth gwylio’r rhaglen i weld y cyfan."