Saith-deg mlynedd ar ôl marwolaeth un o’i sylfaenwyr, bydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol Cymru, dan arweiniad Urdd Gobaith Cymru, yn pledio am newid i drechu tlodi yn y wlad, ac yn cael ei rhannu mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Iau 15 Mai 2025.
Caiff y Neges Heddwch ei rhyddhau ar ffurf ffilm fer ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yr Urdd am 7am. Bydd y Neges yn cael ei darllen yn fyw, ar yr un pryd ar BBC Radio Cymru gan Eve Thomas ac ar BBC Radio Wales gan Tia-Louise Griffiths.
Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, sydd bellach yn ei 103ain flwyddyn, yn cael ei chreu yn flynyddol gan bobl ifanc Cymru a'i rhannu â nifer cynyddol o bobl ledled y byd; yn 2024 fe'i rhannwyd mewn mwy na 50 o ieithoedd ac mewn 47 o wledydd. Roedd ei chyrhaeddiad ar gyfryngau cymdeithasol yn unig yn fwy na 10 miliwn. Roedd Gwilym Davies (1879-1955) - ffigwr allweddol yn sefydlu'r Cenhedloedd Unedig ac UNESCO, sydd ei hun yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed eleni - yn un o sylfaenwyr y Neges Heddwch.
Gyda diolch i Gomisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig, neges eleni yw'r prosiect cyntaf erioed o Gymru i dderbyn Nawddogaeth Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y DU; cefnogaeth a chymeradwyaeth y sefydliad i weithgareddau a digwyddiadau sy'n cyd-fynd â'i werthoedd.
Ysgrifennwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni gan rai o aelodau’r Urdd a myfyrwyr o goleg addysg pellach Coleg y Cymoedd, gyda chymorth Katie Hall o’r band Chroma, y dylunydd graffeg Steffan Dafydd a’r elusen fyd-eang Achub y Plant.
Mae’n gwneud galwad frys am newid ar ôl i ystadegau diweddar Llywodraeth y DU gadarnhau bod bron i un o bob tri plentyn (31%) yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi. “Mae’n cymryd pentre’ i fagu plentyn… Byddwch yn bentref i ni,” meddai’r neges wrth gloi.
Un o sylfaenwyr Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cymru oedd Gwilym Davies (1879-1955), gweinidog gyda’r Bedyddwyr Cymreig a fagwyd mewn cymuned lofaol yng nghymoedd de Cymru. Daeth Mr Davies yn ddiweddarach yn ffigwr dylanwadol yng nghreadigaeth Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru a’i olynydd, y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal ag UNESCO.
Ym 1922 fe helpodd i drefnu i neges Heddwch ac Ewyllys Da gael ei rhannu â'r byd gan bobl ifanc Cymru, ac mae neges wedi cael ei hanfon bob blwyddyn ers hynny. Ar y cychwyn, cafodd y neges ei chyfleu trwy gôd Morse, yna gan y BBC World Service ac yn fwy diweddar trwy gyfryngau digidol yn ogystal â darlledu. Bob blwyddyn mae'r neges ar thema wahanol. Mae'n parhau i fod yr unig neges o'i bath yn y byd, a anfonir gan bobl ifanc yn flynyddol, ei chyrhaeddiad yn tyfu bob blwyddyn.
Mae’r Urdd yn annog pobl ledled y byd i rannu’r Neges ar 15 Mai ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r hashnod #Heddwch2025.
Mewn ymateb i neges eleni, mae'r Urdd wedi ymrwymo i:
- Barhau i gynnig aelodaeth o £1 i deuluoedd incwm is.
- Parhau, drwy Gronfa Cyfle i Bawb y mudiad, i gynnig gwyliau yng ngwersylloedd yr Urdd i bobl ifanc na fyddai’n cael gwyliau haf fel arall
- Sicrhau mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd i deuluoedd incwm is.
- Parhau i fod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig.
Meddai Tia-Louise Griffiths, un o’r bobl ifanc a greodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni: “Rydyn ni i gyd yn yr un cwch. Does neb ar fai, ond gallwn weithio tuag at gael gwell dealltwriaeth o’r camau bach y gallwn eu cymryd i wneud gwahaniaeth.”
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Fel mae neges rymus eleni yn dangos, gall pobl ifanc Cymru leisio’n berffaith anghyfiawnder tlodi, ei effeithiau arnyn nhw a’u cymunedau. Mae’r ystadegau diweddar am dlodi plant yng Nghymru yn ein cywilydd i gyd, a mawr obeithiwn y bydd neges eleni’n ysgogi newid ystyrlon. Mae’r Urdd wedi gwneud llawer o ymrwymiadau o’r fath, er enghraifft ein Cronfa i Bawb. Ond mae mwy i’w wneud – ac mae mwy i’n gwahodd ni heddiw i’w rannu.”
Dywedodd Anna Nsubuga, Llysgennad y DU a Chynrychiolydd Parhaol Dynodedig i UNESCO: “Mae nawddogaeth Comisiwn Cenedlaethol y DU ar gyfer UNESCO o Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd yn gydnabyddiaeth ddofn o dreftadaeth heddwch Cymru ac ymrwymiad y DU i rymuso pobl ifanc.
“Nid yn unig y mae’r nawdd hwn yn anrhydeddu gwaddol person fel Gwilym Davies, a chwaraeodd ran allweddol wrth sefydlu UNESCO a’r Neges Heddwch, ond mae hefyd yn atgyfnerthu ymroddiad y Comisiwn Cenedlaethol i feithrin deialog ymhlith pobl ifanc a hyrwyddo eu pŵer i ysgogi newid cadarnhaol yn fyd-eang.”
Meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: “Pan fyddwn yn siarad â phlant a phobl ifanc am eu profiadau o fyw mewn tlodi, maen nhw'n dweud wrthym fod angen mwy o arian ar deuluoedd i allu fforddio hanfodion sylfaenol a sut y gall tyfu i fyny mewn ardaloedd o amddifadedd uchel effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Maent hefyd yn sôn am obaith - gobaith y bydd eu dyfodol yn wahanol. Dyna pam mae angen i ni gyd-weithio i sicrhau bod pob plentyn yn medru ffynnu. Rydym wrth ein boddau’n gallu anfon y neges bwerus hon o ieuenctid Cymru i’r byd ehangach; rhaid inni roi diwedd ar dlodi plant.”