IAN Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n cyflwyno rhaglen olaf ail gyfres Stori’r Iaith ar S4C, gan edrych yn ôl ar gyfraniad ysgubol ei daid at warchod y Gymraeg, a’i ymdrechion yntau i greu teimlad o falchder a pherthyn i’r Gymraeg ymysg byd pêl-droed Cymru.
Gyda chyfraniadau gan Gareth Bale, Joe Allen, Chris Coleman a Dafydd Iwan mae’n amlwg bod y rhai o’i gwmpas yn credu’n gryf bod Ian Gwyn Hughes wedi cyfrannu llawer iawn at Stori’r Iaith.
“Mae cael criw o bêl-droedwyr i wneud unrhyw beth yn anodd, a’u cael i wneud rhywbeth am hanes yn anoddach fyth,” meddai Gareth Bale ar y rhaglen, un o’r chwaraewr gorau yn hanes Cymru.
“Roedd gan IG ddawn naturiol i ddal sylw’r ’stafell a rhannu ffeithiau diddorol am y diwylliant, yr hanes, gan ddod â’r iaith Gymraeg i’r ffrâm hefyd. Roedd e’n uno pawb – ac roedd rhaid i ti fod yn berson arbennig, yn bersonoliaeth arbennig i allu gwneud hynny.”
Yn gyn-sylwebydd pêl-droed gyda’r BBC, mae Ian Gwyn Hughes bellach wedi dod yn adnabyddus am ei waith gyda Cymdeithas Bêl-droed Cymru - yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg gyda’r chwaraewyr, staff a chefnogwyr, gan ddod â’r tîm yn nes at y ffans, a’r Gymraeg yn nes at bawb.
Ond nid llawer sy’n gwybod mai’r cenedlaetholwr, y Parchedig Lewis Valentine oedd ei daid. Yn awdur, heddychwr ac un o’r tri wnaeth gyfaddef i losgi ysgol fomio’r llu awyr ym Mhenyberth; bu Lewis Valentine yn ddylanwad mawr ar ei ŵyr.
“Mae’n siŵr bod fy nghariad i tuag at Gymru, a tuag at bwysigrwydd yr iaith, wedi dod gan Taid,” meddai Ian, yr hynaf o bump o blant a fagwyd yn Hen Golwyn. “Roedd o’n amlwg yn ddylanwad arna i mewn sawl ffordd, ond yn fwy na dim roedd o jest yn ffrind i fi.”
Ar y rhaglen clywn Ian yn holi ei daid mewn cyfweliad a recordiwyd yn 1983, pan oedd Valentine bron yn 90 oed ac Ian yn dechrau ar ei yrfa ddarlledu. Ynddo mae Lewis Valentine yn sôn am ddychwelyd i fyw i Landdulas, Sir Conwy, yn y 70au, a’r ganran o siaradwyr Cymraeg yno wedi mwy na haneru.
“Wnaeth o ’rioed ddweud wrtha’i ond dwi’n siŵr bod hynny wedi torri ei galon, gweld pethau wedi newid gymaint. Wnaeth hynny aros efo fi, ac o’r foment yna dwi wastad wedi trio defnyddio a rhannu’r Gymraeg ble bynnag yr a’i.”
Yn Stori’r Iaith mae Ian yn olrhain hanes Penyberth, ond hefyd yn archwilio cyfnod Valentine ar faes y gad yn Passchendaele yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a dirgelwch teuluol sy’n gysylltiedig â’r cyfnod.
“Mae yna waled yn y teulu sy’n llond llythyrau, lluniau o’r rhyfel byd cyntaf o’r ochr Almaenig. Pan ddaru Taid farw a Mam yn clirio'r stwff roedd hi wedi dod ar ei draws o. A doedd hi ddim yn gwybod o ble oedd o wedi dod.”
 diddordeb brwd mewn hanes, mae Ian yn awyddus i wybod pwy oedd bia’r waled, sut y daeth hi i law ei daid, ac yn fwy na hynny pam fod Lewis Valentine wedi ei chadw’n gyfrinach ar hyd y blynyddoedd.
Daeth cyfle i Ian godi ymwybyddiaeth o aberth y Cymry yn y rhyfel ymysg y tîm pêl-droed cenedlaethol yn 2014, pan oedd tîm Cymru yn chwarae yng Ngwlad Belg yn ystod penwythnos y cofio, ganrif wedi dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth â’r garfan gyfan draw i Passchendaele i weld bedd Hedd Wyn ac adrodd yr hanes.
Un arall sy’n canu clodydd Ian a’i waith o godi ymwybyddiaeth a pharch tuag at y Gymraeg ar Stori’r Iaith yw cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen.
“Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r iaith Gymraeg,” meddai Joe Allen, oedd yng ngharfan chwedlonol tîm Cymru yn ystod pencampwriaeth Ewro 2016, ynghyd â Gareth Bale. “Pan ddechreuais i gyda’r tîm doedd dim balchder o gwbl, dim pwyslais ar unrhyw beth fel y wlad, yr iaith, yr hanes. Achos IG dwi’n trio falle mwy nawr nag o’n i o’r blaen i cadw siarad Cymraeg. Fyddai byth yn siarad yr iaith yn berffaith, ond y peth pwysig dwi’n meddwl ydi trio bob amser.”
“Wrth adlewyrchu ar ei daith bersonol a chenedlaethol gyda’r iaith Gymraeg meddai Ian: “Dwi’n meddwl mai’r peth pwysicaf ydi bod pobl yn parchu’r iaith ac yn teimlo os nad ydyn nhw’n ei siarad hi, bod yr iaith dal yn perthyn iddyn nhw. Dwi’n falch bo’ ni wedi gallu chwarae rhan fach yn stori’r iaith Gymraeg.”
Stori'r Iaith - Ian Gwyn Hughes
Dydd Mercher, 25 Mawrth 21.00
Ar alw: S4C Clic & BBC iPlayerCynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.