CYNHALIWYD Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion dros ddau ddiwrnod, sef nos Iau, 29ain Hydref, a dydd Sadwrn, 31ain Hydref, ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.

Mae’r Eisteddfod yn un o uchafbwyntiau calendr prysur CFfI Ceredigion, gan gynnig cyfle gwych i aelodau’r mudiad arddangos eu doniau a’u talentau ar lwyfan y sir.

Y beirniaid eleni oedd Arfon Williams (Cerdd); Dafydd Wyn Rees (Llefaru); Eirwyn Richards (Adran Ysgafn); Esyllt Angharad Lewis (Llên); Catherine Young (Dawnsio); Manon Mai Rhys-Jones (Alaw Werin); Eurfryn Lewis (Celf); Gwenan Creunant ac Iwan Bryn (Cystadlaethau’r Aelodau); Marc Griffiths (Cywaith Clwb) ac Edna Jones, (Rhaglen Clwb).

Y cyfeilyddion ar gyfer yr Eisteddfod oedd Lona Phillips a Tudur Jones.

Cafwyd y fraint o groesawu Rhian Wyn Rowlands, Tregaron, fel Llywydd Anrhydeddus yr Eisteddfod eleni. Cyflwynodd araith hynod bwrpasol, a oedd yn ychwanegu at achlysur arbennig y penwythnos.

Diolchwyd Lloyd Motors, Aberaeron, am eu cefnogaeth hael fel prif noddwyr yr Eisteddfod eleni ac i Technegol Ltd, Gwesty Four Seasons, Aberystwyth a Theatr Felinfach am eu haelioni wrth noddi adrannau unigol o’r Eisteddfod. Diolch hefyd i Cegin Cwm Gwaun am ddarparu bwyd i bawb drwy gydol y dydd.

Ar ddiwedd y cystadlu, CFfI Pontsian gipiodd y safle cyntaf gyda chyfanswm o 103 o farciau.

Daeth CFfI Felinfach yn ail gyda 97 o farciau, a CFfI Llanwenog yn drydydd gyda 76 o farciau.

Dewi Davies, Cadeirydd y Sir, oedd yn arwain y seremoni cadeirio a choroni, gyda Deiniol Organ, aelod o glwb Troedyraur, yn canu cân y seremoni. Gwenyth Tandy oedd yn cyflwyno ac yn trafod y feirniadaeth ar ran y beirniad llenyddol, Esyllt Angharad Lewis.

Daniel Evans, aelod o glwb Pontsian, gipiodd y gadair eleni am ei gerdd ar y thema ‘Bwlch/Blychau’.

Nid dyna ddiwedd ei lwyddiant, fodd bynnag, gan iddo hefyd ennill y goron am ei ddarn rhyddiaith ar y testun ‘Y Gêm’.

Cyflwynwyd y gadair gan Gwenyth Tandy, Brenhines y Sir, a Rhodri Griffiths, Ffermwr Ifanc y Sir.

Gwaith Dion Evans o glwb Pontsian oedd wedi creu’r gadair hardd.

Beca Jenkins o Bontsian q2’#[ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda Twm Ebbsworth o Lanwenog ac Elen Davies o Droedyraur yn rhannu’r trydydd safle.

Cyflwynwyd y goron gan Dewi Davies, Cadeirydd y Sir, ac fe’i crëwyd gan Carwyn Davies, cyn-aelod o glwb Llanwenog.

Magw Thomas o Bontsian ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y goron, gyda Mali Evans o Gaerwedros a Sion Wyn Evans o Felinfach yn rhannu’r trydydd safle.

Dyma restr o’r rhai ac enillodd gwpanau’r Eisteddfod;

Parti Llefaru – Cwpan Her Janet Morgan, Pant-Defaid – Tregaron

Parti Unsain – Cwpan Coffa Her Parhaol, Penlanlas Isaf – Llanwenog

Meimio i Gerddoriaeth – Cwpan Her Mared Rand Jones – Llanwenog

Sgets – Cwpan Her Parti Drama Dyffryn Cletwr – Felinfach

Emyn Nofis – Cwpan Her Einir Ryder – Meia Evans, CFfI Trisant

Unawdydd Gorau – Cwpan Her Mr a Mrs Gwyndaf James – Ela Mablen Griffiths Jones, Myrdroilyn

Llefarydd Gorau – Cwpan y diweddar Mr a Mrs Elfyn Owen – Alaw Mair Jones, Felinfach

Marciau uchaf yn y Gwaith Cartref – Cwpan Her Heather Price, Esgereinon – Pontsian

Marciau Uchaf yn yr Adran Ysgafn – Tlws Her Nia George – Felinfach

Marciau uchaf yn yr Adran Lwyfan – Tlws Her Teulu Hatcher – Pontsian a Felinfach

Ail fuddugol yn yr Eisteddfod – Tlws Coffa Mr Eryl Jones, Mydroilyn – Felinfach

Clwb Buddugol – Tlws Teulu Hafod Iwan – Pontsian

Cafwyd hefyd canlyniadau y cystadlaethau canlynol – Llyfr Lloffion – 1. Llanwenog; 2. Troedyraur; 3. Mydroilyn. Llyfr Trysorydd – 1. Pontsian; 2. Trisant; 3. Llanwenog. Llyfr Cofnodion – 1. Llanwenog; 2. Pontsian; cydradd 3. Felinfach a Mydroilyn

Dyma ganlyniadau’r Eisteddfod Nos Iau:

Dawns Amlgyfrwng – 1. Pontsian; 2. Llangwyryfon; 3. Mydroilyn.

Bwletin Newyddion – 1. Felinfach; 2. Trisant; 3. Tregaron.

Unawd Alaw Werin – Cadi Williams, Talybont; 2. Lydia Rees, Caerwedros; Cydradd 3. Ella Evans a Mali Lewis, Felinfach.

Sgen ti dalent – 1. Tregaron; 2. Caerwedros.

Meimio i Gerddoriaeth – 1. Llanwenog; 2. Felinfach; cydradd 3. Trisant a Pontsian

Canlyniadau Dydd Sadwrn:

Unawd 13 neu iau – 1. Nanw Griffiths Jones, Mydroilyn; 2. Arthur Evans, Trisant; 3. Nel Edwards-Phillips, Felinfach.

Llefaru 13 neu iau – 1. Arthur Evans, Trisant; 2. Gruffydd Davies, Pontsian; cydradd 3. Lydia Rees, Caerwedros a Nanw Griffiths Jones, Mydroilyn.

Unawd 17 neu iau – Mirain Evans, Talybont; 2. Celt Dafydd. Caerwedros; 3. Gwennan Owen, Llanddewi Brefi.

Llefaru 17 neu iau – 1. Mari Williams, Tregaron; 2. Meia Evans, Trisant; 3. Esyllt Jones, Llanwenog.

Unawd 28 neu iau – Ela Mablen Griffiths Jones, Mydroilyn; 2. Osian Jenkins, Llanddewi Brefi; 3. Fflur McConnell, Mydroilyn.

Llefaru 28 neu iau – Alaw Mair Jones, Felinfach; Elin Williams, Tregaron; 3. Mari Lewis, Felinfach.

Unawd Offerynnol – 1. Alwena Owen, Pontsian; 2. Guto Davies, Tregaron; 3. Anna Siencyn Evans, Pontsian.

Canu Emyn Nofis – 1. Meia Evans, Trisant; 2. Neli Evans, Caerwedros; 3. Nanw Griffiths Jones, Mydroilyn.

Ymgom – 1. Tregaron; 2. Llanwenog; 3. Llanddewi Brefi.

Canu Emyn – 1. Ela Mablen Griffiths Jones, Mydroilyn; 2. Cadi Williams, Talybont; 3. Rhion Davies, Felinfach.

Unawd Sioe Gerdd neu Ffilm 17 oed neu iau – 1. Lea Thomas, Mydroilyn; 2. Gwenllian Dafydd, Mydroilyn; 3. Celt Dafydd, Caerwedros.

Parti Llefaru – 1. Tregaron; 2. Pontsian; 3. Llanwenog.

Deuawd – 1. Elin a Nia, Llanwenog; 2. Efan a Neli, Caerwedros; 3. Tomos a Deiniol, Troedyraur.

Unawd Sioe Gerdd neu Ffilm 18-28 oed – 1. Elen Davies, Troedyraur.

Ensemble Lleisiol – 1. Troedyraur; 2. Pontsian; 3. Trisant. Sgets – 1. Felinfach; 2. Mydroilyn; cydradd 3. Llanddewi Brefi a Pontsian.

Parti Unsain – 1. Llanwenog; 2. Pontsian; cydradd 3. Felinfach a Mydroilyn.

Côr Hwyl – 1. Caerwedros; 2. Troedyraur; 3. Tregaron.

Deuawd neu Triawd Doniol – 1. Tomos, Deiniol ac Elen, Toedyraur; 2. Ifan a Dylan, Llanddeiniol/Llangwyryfon; cydradd 3. Mari, Elin a Ioan, Tregaron a Mali, Cerys a Jano, Caerwedros.

Côr Cymysg – 1. Felinfach; 2. Pontsian.

Gwaith Cartref

Rhyddiaith – 1. Daniel Evans, Pontsian; 2. Magw Thomas, Pontsian; cydradd 3. Mali Evans, Caerwedros a Sion Wyn Evans, Felinfach.

Cerdd – 1. Daniel Evans, Pontsian; 2. Beca Jenkins, Pontsian; cydradd 3. Twm Ebbsworth, Llanwenog ac Elen Davies, Troedyraur.

Cywaith Clwb – 1. Pontsian; 2. Llanwenog; 3. Caerwedros.

Cystadlaethau i aelodau 10-13 oed – 1. Elsa Evans, Trisant; cydradd 2. Bela Davies, Llangwyryfon a Martha Silvestri Jones, Caerwedros; 3. Katie Thomas, Pontsian.

Cystadleuaeth i aelodau 14-16 oed – 1. Magw Thomas, Pontsian; cydradd 2. Buddug Jones, Tregaron a Meia Evans, Trisant; cydradd 3. Anni Davies, Pontsian ac Elen Evans, Felinfach.

Cystadleuaeth i aelodau 21 oed neu iau – 1. Daniel Evans, Pontsian; cydradd 2. Elen Morgan, Llanwenog ac Efa Davies, Pontsian; cydradd 3. Mari Lois Jones, Llanwenog a Magi Jones, Trisant.

Cystadleuaeth i aelodau 28 oed neu iau – 1. Briallt Williams, Llanwenog; cydradd 2. Mari Lewis a Mali Lewis, Felinfach; cydradd 3. Beca Jenkins, Pontsian ac Ioan Lewis, Tregaron.

Brawddeg – 1. Glesni Thomas, Pontsian; 2. Ffion Thomas, Felinfach; 3. Martha Silvestri Jones, Caerwedros.

Limrig – 1. Ffion Thomas, Felinfach; cydradd 2. Rhodri Jenkins, Mydroilyn a Sion Wyn Evans, Felinfach; cydradd 3. Angharad Miles, Llanddewi Brefi ac Efan Evans, Caerwedros.

Celf a Chrefft Dan 18 oed – 1. Mari Lois Jones, Llanwenog; 2. Elena Llywelyn, Felinfach; cydradd 3. Katie Thomas, Pontsian a Delun Davies, Tregaron

Celf a Chrefft dros 18 oed – 1. Ffion Thomas, Felinfach; 2. Daniel Evans, Pontsian; 3. Mared Davies, Felinfach.

Rhaglen Clwb – 1. Felinfach; 2. Llanwenog; cydradd 3. Llanddewi Brefi a Pontsian.

Pob lwc i bawb a fydd yn cynrychioli Ceredigion yn Eisteddfod Cymru sydd yn cael ei gynnal eleni ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar y 21ain o Dachwedd.