MAE’R darlledwr a'r newyddiadurwr teledu Sian Lloyd yn parhau gyda'i chyfres yn mynd â gwylwyr ar daith bwerus drwy rai o hanesion tywyll Cymru o droseddu yn ei chyfres newydd ar S4C.

Mae Sian yn ailymweld ag achosion trosedd o’r gorffennol yn y gyfres chwe rhan, Troseddau Cymru gyda Sian Lloyd, gan daflu goleuni ar y straeon cymhleth a thorcalonnus.

Mae'r bennod nesaf yn cael ei darlledu nos heno am 9yh. Yn y bennod hon dilynwn achos babi coll o Ysbyty Glan Clwyd, ac yn adrodd stori y babi Lydia Owens, gan gynnwys mewnwelediadau gan arbenigwyr, ditectifs a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Roedd y digwyddiad dirdynnol hwn wedi dal sylw'r genedl, nid yn unig oherwydd natur y diflaniad ond hefyd gan iddo daflu goleuni ar brotocolau diogelwch ysbytai.

Yn gynnar gyda'r nos ym mis Chwefror 1995, taflwyd Ysbyty Glan Clwyd i anhrefn pan adroddwyd bod merch fach ar goll o'r ward mamolaeth. Fe wnaeth ei rhieni, Christine a Michael Owens dynnu sylw at staff yr ysbyty ar unwaith, a lansiwyd chwiliad brys.

Sian Lloyd sy'n cyflwyno'r rhaglen ddogfen drwy gyfuniad o ail greu dramatig a chyfweliadau ac mae'n siarad gyda ditectifs a chwaraeodd ran allweddol yn yr ymchwiliad, y tro cyntaf iddynt rannu eu stori yn gyhoeddus. Mae Sian hefyd yn clywed gan nyrs oedd yn gweithio yn yr ysbyty ar y pryd, am yr effaith gafodd y drosedd ar aelodau o gymuned ehangach yr ysbyty.

Roedd Sian ei hun wedi gweithio ar y stori fel newyddiadurwraig, meddai: “Roeddwn i newydd orffen fy ngradd ar ddechrau'r 1990au, doeddwn i ddim yn disgwyl gweithio ar stori mor uchel ei phroffil ac mor amlwg mor fuan i mewn i'm gyrfa lle chwaraeodd y wasg ran ganolog wrth gyfleu gwybodaeth hanfodol.”

Un elfen allweddol o'r rhaglen yw'r mewnwelediadau amhrisiadwy a ddarparwyd gan y troseddegydd Dylan Rhys Jones, sy'n cynnig dadansoddiad o'r seicoleg y tu ôl i'r math hwn o drosedd.

Mae Sarah Aubrey, uwch ddarlithydd bydwreigiaeth, yn rhannu ei safbwynt ar amgylchedd clos ward famolaeth a bregusrwydd babanod newydd-anedig mewn ysbytai, ac yn esbonio sut mae diogelwch mewn ysbytai a wardiau mamolaeth yn arbennig wedi newid yn ddramatig ers hynny.

Ond nid yr arbenigwyr yn unig a ddarparodd fewnwelediad—mae dau dditectif lleol, Huw Vevar ac Alan Dylan Owen, yn adrodd eu profiad yn olrhain y babi coll. Cafodd y ddau tip-off wnaeth arwain y pâr at dŷ yn Y Rhyl.

Wedi curo ar y drws dyma’r ddau yn sylweddoli eu bod yn wynebu'r fenyw a oedd wedi mynd â'r baban cyn gynted ag y daeth hi at y drws. Fe wnaeth y ddau ddarganfod y baban yn fyw ac yn iach ac yn ymddangos yn ddi-anaf er gwaethaf yr helynt o’i hamgylch.

Meddai Huw Vevar: "Cyn gynted ag y daeth y ddynes at y drws a dweud wrthym nad oedd yn gyfleus, roedden ni'n gwybod mai hon oedd hi, roedd gennym gut feeling, roedden ni'n gwybod, hon ’di hi. Mi driodd hi slamio’r drws ond fedres i roi nhroed i fewn trwy’r drws trwy reddf a blynyddoedd o brofiad, a rhedon ni ar ei hôl hi i lawr y coridor. Fe wnaethon ni ddod o hyd i'r babi yn cysgu’n sownd yn y cot."

Daeth canlyniad yr achos â rhyddhad i'r teulu a oedd wedi dioddef cymaint. Ac eto, roedd effaith yr achos i’w gweld y tu hwnt i'r teulu agos a'r ditectifs dan sylw. Roedd yr hyn ddigwyddodd i deulu’r Owens wedi chwarae rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau wnaeth esblygu ar brotocolau diogelwch mewn ysbytai.

Trwy lygaid y ditectifs, arbenigwyr, a'r rhai a fu'n byw drwy'r digwyddiadau, mae'r rhaglen ddogfen yn datgelu nid yn unig fanylion trosedd frawychus ond hefyd y goblygiadau ehangach a gafodd ar gyfer diogelwch ysbytai. Mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd gwyliadwriaeth mewn lleoliadau gofal iechyd, a chymaint mae'n rhaid i awdurdodau eu gwneud er mwyn amddiffyn aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.

Yn drist iawn ers i'r rhaglen yma gael ei ffilmio bu farw Huw Vevar. Mae ei deulu yn ymwybodol bydd y rhaglen i'w gweld heno.

Troseddau Cymru gyda Sian Lloyd

Nos Fercher, 19 Chwefror 21.00

Ar alw: S4C Clic ac iPlayerCynhyrchiad Wildflame ar gyfer S4C