WEDI i raglenni S4C gael eu henwebu ar gyfer 20 gwobr BAFTA, llwyddodd rhaglenni o fewn categorïau drama, plant a ffeithiol i ennill yn ystod y seremoni nos Sul.
Owain Wyn Evans oedd yn cyflwyno'r seremoni yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd.
Roedd y noson wobrwyo yn ddathliad o dalent ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.
Annes Elwy enillodd yng nghategori yr actores orau am ei rhan fel y warden carchar, Elin James, yn nrama S4C Bariau (Rondo Media).
Ymhlith yr enillwyr eraill oedd Sêr Steilio (Yeti Television) yng nghategori rhaglenni plant; Gerwyn Lloyd wnaeth ennill yn nghategori dylunio cynhyrchiad am y ddrama Pren ar y Bryn (Fiction Factory); enillodd James Spinks am ei waith colur a gwallt ar y ffilm Y Sŵn (Swnllyd); aeth gwobr BAFTA am y gyfres ffeithiol orau i Y Frwydr: Stori Anabledd (Cardiff Productions).
Meddai Sioned Wiliam, prif weithredwr dros dro S4C: "Mae arlwy S4C wedi bod yn arbennig dros y blynyddoedd diweddar a dwi'n falch iawn o'n cynnwys.
"Mae'r ffaith bod BAFTA wedi cydnabod nifer o raglenni S4C drwy eu henwebu a'u gwobrwyo mewn seremoni arbennig yn destament i holl waith caled y cwmnïau cynhyrchu, y talent penigamp sydd gyda ni yn Gymraeg, ein partneriaid ac i holl staff S4C.
"Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi gweithio ar drawsdoriad eang a gwych iawn o raglenni, gan longyfarch yn gynnes i'r rheiny bu'n ddigon ffodus i ennill gwobr heno a'r rheiny gafodd eu henwebu."
Hoffai S4C hefyd longyfarch yr actor Mark Lewis Jones ar dderbyn gwobr arbennig Sian Phillips, gwobr sy'n cael ei gyflwyno i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fyd ffilm a/neu'r teledu.
Mae Mark wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar nifer o brif ddramâu S4C gan gynnwys Dal y Mellt; Un Bore Mercher a ffilm Y Sŵn.
Mae'r holl raglenni gafodd eu enwebu ar gyfer gwobr BAFTA i'w gweld ar S4C Clic.






Comments
We've recently changed our login process. If you have an account for commenting, you will need to re-register on the login window.
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.