MAE’R Urdd wedi cyhoeddi mai lleoliad Eisteddfod yr Urdd Casnewydd 2027 yw Tŷ Tredegar.
Mae’r adeilad hynafol yn deillio nol i’r 17eg Ganrif, ac yn cyn gartref i deulu’r Morgans ac yna’r teulu Tredegar, un o deuluoedd mwyaf pwerus a dylanwadol yn yr ardal.
Mae’r plasty yn sefyll ar safle godidog a gwyrdd 90 acer, sy’n gwneud hi’n “safle delfrydol” ar gyfer cynnal yr Eisteddfod.
Dywedodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Rwyf mor falch o weld cefnogaeth Cyngor Sir Casnewydd, a chymuned Rhanbarth Gwent gyfan i gynnal yr Eisteddfodyn 2027.
“Mae Tŷ Tredegar i weld fel safle delfrydol i ni fel trefnwyr.
“Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw’r ffaith ei bod hi’n teithio, ac yn gallu ymweld ag ardaloedd sydd erioed wedi cynnal yr ŵyl.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda’r cyngor a’r gymuned dros y ddwy flynedd nesaf i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal.”
“Rydym yn hynod falch bod Tŷ Tredegar wedi’i gadarnhau fel lleoliad ar gyfer ymweliad cyntaf Eisteddfod yr Urdd erioed â Chasnewydd yn 2027,” meddai’r Cynghorydd Stowell-Corten, aelod cabinet dros gyfathrebu a diwylliant, Cyngor Dinas Casnewydd.
“Mae cynnal mwy o ddigwyddiadau mawr a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cynnig diwylliannol ill dau yn rhan o’n strategaeth ddiwylliannol hirdymor ar gyfer y ddinas.
“Bydd Eisteddfodyr Urdd, un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Cymru, yn ein helpu i gyflawni’r ddau nod hynny.
“Rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol â phosibl, yng nghanol dinas ac ar draws Casnewydd, yn y dathliadau, fel bod cymaint o bobl â phosibl yn cael profi cyffro digwyddiad diwylliannol mawr.
“Allwn ni ddim aros i’n dinas groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ymhen dwy flynedd.”
Dywedodd Lizzie Smith Jones, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer Tŷ Tredegar: “Dyn ni'n hynod o falch o gael y cyfle i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Dŷ Tredegar a'r parcdir yn 2027.
“Mae'n foment enfawr i Gasnewydd a'n cymuned - dyn ni'n disgwyl ymlaen at chwarae ein rhan wrth i ni ddathlu'r Gymraeg, diwylliant a chreadigrwydd, a hyrwyddo cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.”