AM y tro cyntaf, bydd Urdd Gobaith Cymru yn cynnal hystings ieuenctid cenedlaethol er mwyn rhoi llwyfan i bobl ifanc holi gwleidyddion a rhannu eu barn wrth i Gymru baratoi at ethol ei seithfed Senedd.

Ar ddydd Iau, 19 Mawrth 2026 yn All Nations Centre, Caerdydd bydd yr Urdd yn croesawu 200 o ddisgyblion chweched dosbarth a myfyrwyr Colegau Addysg Bellach ledled Cymru (16+) i gymryd rhan yn y digwyddiad.

Bydd y diwrnod yn cynnwys bore o sesiynau ar ddemocratiaeth, y broses o gofrestru i bleidleisio a thueddiadau’r polau diweddaraf, ynghyd â gweithdai i helpu’r mynychwyr lunio cwestiynau craff i wleidyddion.

Yna cynhelir yr hystings yn y prynhawn gyda’r bobl ifanc yn arwain ar y drafodaeth ac yn herio safbwyntiau gwleidyddion o wahanol bleidiau.

Bydd Tinopolis yn ffilmio’r hystings fel rhan o gyfres deledu Pawb a’i Farn i’w ddarlledu ar S4C y noson honno.

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae gan bobl ifanc rôl enfawr i’w chwarae yn etholiad eleni.

“Fel mudiad cenedlaethol i bobl ifanc, uchelgais yr Urdd yw bod yn lwyfan i’w lleisiau, ac rydym yn falch o gynnig digwyddiad sy’n eu grymuso drwy roi’r wybodaeth a’r hyder iddynt i leisio’u barn ac i fod yn rhan o’r drafodaeth genedlaethol.”

Mae tocynnau am ddim, gyda’r opsiwn i archebu tocyn grŵp ar gyfer hyd at 12 person (gan gynnwys arweinwyr neu athrawon). Mae’r Urdd yn awyddus i gynnwys amrywiaeth eang o leisiau, profiadau a safbwyntiau o bob rhan o Gymru.

Mae cofrestriadau ar gyfer y digwyddiad bellach ar agor: urdd.cymru/hystings