AR ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025 mae Urdd Gobaith Cymru yn diolch o galon i ranbarth Gorllewin Morgannwg am estyn croeso cynnes i’r miloedd sydd wedi heidio i fwynhau a chystadlu ar faes prifwyl ieuenctid Cymru.

Eleni mae’r Urdd wedi dathlu torri record o gofrestriadau i gystadlu (119,593) mewn dros 400 o gystadlaethau, ynghyd â chynnydd sylweddol (o 42%) yn y nifer o ddysgwyr Cymraeg ifanc yn cymryd rhan yn yr ŵyl o gymharu â llynedd.

Mae diolch yr Urdd i holl wirfoddolwyr y mudiad am eu cynorthwyo i gynnal un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop ym Margam eleni. Diolchwyd hefyd i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth ariannol ychwanegol er mwyn sicrhau mynediad am ddim i deuluoedd incwm is a chynnig Eisteddfod i Bawb unwaith eto.

Yn ogystal â’r tri Phafiliwn ble bu plant a phobl ifanc Cymru yn cystadlu, mae’r maes wedi cynnig gweithgareddau i bobl o bob oed. Cafwyd mwy nag erioed (247) o oriau o gynnwys o faes yr Eisteddfod ar draws llwyfannau S4C, ynghyd â darllediadau dyddiol ar BBC Radio Cymru a Radio Cymru 2.

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i Bwyllgor Gwaith a phobl ardal Dur a Môr am eu brwdfrydedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac am estyn cystal groeso i’r ŵyl.

“Diolch i filoedd o athrawon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ledled Cymru am eu gwaith diflino ac am alluogi mwy nag erioed o blant a phobl ifanc i gael cyfleoedd amhrisiadwy drwy’r Urdd. Hoffwn hefyd ddiolch i’n noddwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth parhaus.

“Mae sicrhau cyfleoedd a phrofiadau celfyddydol yn hanfodol i lwyddiant a gwaddol ein gŵyl ieuenctid a dwi mor hapus bod mwy nag erioed o ddysgwyr Cymraeg wedi cymryd rhan eleni. Cawn edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn llawn hyder.”

Cyhoeddwyd teilyngdod ym mhob un o brif seremonïau’r Eisteddfod eleni:

  • Chloe Swinburn o ranbarth Fflint a Wrecsam oedd enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Lleucu Haf Thomas o Sir Benfro oedd enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.
  • Cyhoeddwyd Elin Undeg Williams o Betws Gwerful Goch, Sir Ddinbych yn Brif Ddramodydd.
  • Dyfarnwyd Medal Bobi Jones (19-25 oed) i Joe Morgan o Gaerdydd a Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) i Lloyd Wolfe, sydd hefyd o Gaerdydd.
  • Elain Roberts yn wreiddiol o Bentre’r Bryn, Ceredigion yw Prifardd yr Eisteddfod.
  • Coronwyd Mali Elwy (yn wreiddiol o Tan-y-Fron ger Llansannan) yn Brif Lenor yr ŵyl.
  • Cipiodd Rafik Harrington o Gaerdydd y Fedal Gyfansoddi.

Erin Fflur Jardine o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd sy’n derbyn Ysgoloriaeth yr Eisteddfod eleni – ysgoloriaeth a wobrwyir i’r cystadleuwyr mwyaf addawol yn yr oedran blwyddyn 10 a dan 19 oed.

Mae Erin wedi bod yn brysur iawn dros y dyddiau diwethaf ac wedi profi llwyddiant mewn sawl cystadleuaeth gan gynnwys yr Unawd Telyn a’r Unawd Piano, ac wedi bod yn aelod o Gôr Merched a Chôr Gwerin, yn ogystal â chyfeilio i Gôr Merched Plas Taf ac i’w brawd yn yr Unawd Pres.

Cyhoeddwyd enillwyr gwobrau newydd yr Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i chwech o gystadleuwyr 19-25 oed, sef:

  • Ffion Mair Thomas (Gwobr Syr Bryn Terfel, lleisiol)
  • Ioan Williams (Gwobr Amy Dowden, dawns)
  • Beca Fflur Morris (Gwobr Callum Scott Howells, sioe gerdd)
  • Ffred Hayes (Gwobr Matthew Rhys, theatr a llefaru)
  • Jencyn Ainsley Corp (Gwobr Rakhi Singh, offerynnol)
  • Laurie Thomas (Gwobr Sarah Hemsley-Cole, cefn llwyfan)

Mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am fwy o gystadlaethau, cyhoeddwyd gweledigaeth yr Urdd i ymestyn yr Eisteddfod i ŵyl saith diwrnod flwyddyn nesaf. Felly bydd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn cael ei chynnal rhwng dydd Sadwrn, 23 a Gwener 29 Mai 2026.