MAE’R Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DCMS) wedi cyhoeddi ei bod yn chwilio am Gadeirydd newydd i S4C. Mae’r adran, sy’n gyfrifol am apwyntiadau cyhoeddus S4C, hefyd yn hysbysebu am hyd at bump aelod anweithredol newydd i Fwrdd y sianel.
Ar gyfer rôl y Cadeirydd, mae’r adran yn dweud ei bod yn chwilio am unigolyn rhagorol sydd â sgiliau arwain amlwg ar lefel uwch ac ymrwymiad i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus a datblygu’r Gymraeg, ac sydd â’r gallu i feithrin diwylliant o gynhwysiant ac ymddiriedaeth ym mhob rhan o’r sefydliad i arwain S4C.
Bydd yr unigolyn llwyddianus yn olynu y Cadeirydd Dros Dro, Guto Bebb a bydd y penodiad am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd. Disgwylir y byddai’r Cadeirydd newydd yn ymgymryd â’i benodiad yn fuan yn 2025 ar ôl i’r broses benodi ddod i ben.
Ar gyfer yr aelodau anweithredol, mae’r Bwrdd yn ceisio sicrhau bod ei aelodau, rhyngddynt, yn gallu manteisio ar ystod eang o arbenigedd a gwybodaeth am feysydd penodol sy’n berthnasol i waith S4C.
Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gwneud penodiadau i Fwrdd S4C. Ymgynghorir â Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru yn ystod camau allweddol y broses.
Ceir mwy o wybodaeth am Rol y Cadeirydd ac am sut i ddod yn Aelod Anweithredol yma.