PORI a chynhaeafu’r Trifolium yw’r ateb i ddyfodol amaeth yng Ngheredigion, yn ôl siaradwr gwadd nesaf rhaglen gyflwyniadau ‘Maes a Môr’, Ffrindiau Ffostrasol.
“A'i meillion yw'r allwedd i ffermio cynaliadwy?” fydd pwnc trafod Dr Cennydd Jones yn Nhafarn Ffostrasol ar nos Lun, 16 Medi (7.30pm). Ac yntau’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn un o arweinwyr Clwb Ffermwyr Ifainc Pont-siân mae’r gwestai nesaf yn arbenigo ar laswelltir
“Mae angen rheoli meillion bach yn wahanol er mwyn cael y gorau mas ohoni,” meddai am dyfu a chynhaeafu’r porthiant.
Bydd cyflwyniad Cennydd Jones, sy’n dal i helpu ar y fferm odro deuluol, yn rhoi cychwyn ar gyflwyniadau gweddill y flwyddyn Maes a Môn.
Mae’r rhaglen yn cynnwys Euros Lewis yn sôn am Straeon Celwydd Golau, Dr Huw Williams yn trafod gwaddol y meddyliwr a’r radical Richard Price a sesiwn gyda Sam Robinson ynglŷn â dysgu Cymraeg, cynganeddu a gwneud seidr.
“O’r poblogaidd i’r ysgolheigaidd, rydyn ni’n anelu bob blwyddyn at drefnu rhaglen amrywiol ac uchelgeisiol,” meddai Robyn Tomos, cadeirydd Ffrindiau Ffostrasol.
“Hen ac ifanc, mae croeso i bawb ymuno â ni yn ein cartref newydd yn nhafarn Ffostrasol ar y drydedd nos Lun bob mis.”