MI fydd S4C yn darlledu fersiwn Gymraeg newydd sbon o’r gyfres The A-Talks (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel The Assembly) – lle mae grŵp o 30 o ymholwyr awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu yn holi person adnabyddus heb unrhyw gyfyngiad.

Mi fydd pedair pennod yn y gyfres newydd, pob un yn rhoi person adnabyddus o dan chwyddwydr craff yr ymholwyr. Caiff enwau pedwar o enwogion eu cyhoeddi yn yr hydref; pob un yn Gymro neu’n Gymraes adnabyddus wedi hen arfer â chyfweliadau gyda’r cyfryngau, ond dim byd tebyg i’r cwestiynau ddaw yn Y Cyfweliad.

Mae fformat y sioe yn addasiad o'r gyfres Ffrengig Les Rencontres du Papotin, a grëwyd gan Kiosco TV a Quad Ten ac wedi’i ddosbarthu gan Can’t Stop Media, a lansiwyd yn 2022 ar France 2. Bellach mae’r fformat wedi’i ddarlledu mewn 13 gwlad ym mhob cwr o’r byd, yn cynnwys Awstralia, Sbaen, Brasil, Yr Iseldiroedd, Singapore a Norwy, gydag wyth gwlad arall yn cynnwys Cymru yn paratoi i ddarlledu eu fersiwn hwythau.

Bwriad y gyfres, meddai’r cwmni cynhyrchu Cwmni Da, yw i roi platfform haeddiannol i’r gymuned niwro-wahanol – a hynny gyda chymorth arbenigwyr yn y maes i sicrhau diogelwch a pharch i bawb.

Ymysg yr enwogion sydd wedi cael eu holi gan ymholwyr dros y byd hyd hyn mae Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron a’r actorion byd-enwog Marion Cotillard, Antonio Banderas a Sam Neill.

Ym mis Ebrill 2024 darlledwyd y fersiwn gyntaf yn y Deyrnas Unedig, lle gafodd yr actor Michael Sheen ei holi yn The Assembly (ar ffurf peilot gan y BBC). Yna yng ngwanwyn 2025, mewn cyfres ar ITV, tro’r actorion David Tennant a Danny Dyer, y gantores Jade Thirlwall a’r cyflwynydd a’r cyn bêl-droediwr Gary Lineker oedd hi i wynebu’r cwestiynau.

Dywedodd Siwan Haf, cynhyrchydd Y Cyfweliad ar ran Cwmni Da:"O fod wedi gwylio a mwynhau The Assembly, mae cael y cyfle i gynhyrchu’r fersiwn Gymraeg o'r fformat arbennig hon yn fraint.

“Gallai ddim disgwyl i ddechrau ffilmio efo'r criw o holwyr niwro-wahanol, fydd yn cael y rhwydd hynt i holi beth bynnag yr hoffent i'r gwestai, bob wythnos. Dwi'n edrych ymlaen fwyaf i glywed pa gwestiynau unigryw maen nhw'n ysu i holi - a'r rhai y bydd y gwylwyr adref yn siŵr o werthfawrogi clywed yr atebion hefyd!

“Dwi’n teimlo fod gennym wledd o'n blaenau!"

Dywedodd Damien Porte ac Arnaud Renard, partneriaid o CAN’T STOP Media: “Mae The Assembly yn parhau i brofi ei hun fel fformat sydd â chyseiniant byd-eang pwerus. Mae ei allu i dynnu sylw at leisiau amrywiol a meithrin dealltwriaeth wedi cyffwrdd â chynulleidfaoedd ledled y byd.

“Rydym wrth ein bodd bod S4C yn hyrwyddo’r gyfres sy’n adrodd straeon pwysig yng Nghymru, ac rydym yn gobeithio y bydd yn cyflawni’r un llwyddiant trwy ymgysylltu cymunedau mewn sgyrsiau ystyrlon ac unigryw Gymreig.”

Dywedodd Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbennig S4C: “Rwy’n hynod falch o fod wedi comisiynu Y Cyfweliad ar S4C. Mae’n sioe sgwrsio gwbwl unigryw, ac rwy’n wirioneddol angerddol amdani.

“Yn wahanol i lawer o sioeau sgwrsio eraill, nid yw’r gwesteion yno i hyrwyddo eu hunain a’u gwaith nac i wthio unrhyw agenda.

“Y gwir bleser yw naturioldeb yr eiliadau sy’n mynd o drafod profiadau hynod bersonol i sgwrsio am bynciau diflas bob dydd fel aros am y bws!

“Dyma gyfres sy’n gynhwysol ac yn ymwneud ag anabledd mewn modd real, doniol, a chwbl onest.”

Caiff Y Cyfweliad ei darlledu ar S4C yn wythnosol, yn dechrau dros y Nadolig 2025, gyda’r union ddyddiadau i’w cadarnhau maes o law.